Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 31:38-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a'th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd.

39. Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a'i gwnawn ef yn dda; o'm llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a'r hyn a ladrateid y nos.

40. Bûm y dydd, y gwres a'm treuliodd, a rhew y nos; a'm cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid.

41. Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau.

42. Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a'th geryddodd di neithiwr.

43. Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a'r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a'r praidd yw fy mhraidd i; a'r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i'm merched hyn, ac i'w meibion hwynt y rhai a esgorasant?

44. Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfamod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau.

45. A Jacob a gymerth garreg, ac a'i cododd hi yn golofn.

46. Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd.

47. A Laban a'i galwodd hi Jeger‐Sahadwtha: a Jacob a'i galwodd hi Galeed.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 31