Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 31:36-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid ohonot ar fy ôl?

37. Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a'th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau.

38. Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a'th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd.

39. Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a'i gwnawn ef yn dda; o'm llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a'r hyn a ladrateid y nos.

40. Bûm y dydd, y gwres a'm treuliodd, a rhew y nos; a'm cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid.

41. Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau.

42. Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a'th geryddodd di neithiwr.

43. Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a'r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a'r praidd yw fy mhraidd i; a'r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i'm merched hyn, ac i'w meibion hwynt y rhai a esgorasant?

44. Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfamod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau.

45. A Jacob a gymerth garreg, ac a'i cododd hi yn golofn.

46. Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd.

47. A Laban a'i galwodd hi Jeger‐Sahadwtha: a Jacob a'i galwodd hi Galeed.

48. A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,

49. A Mispa; oblegid efe a ddywedodd, Gwylied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd.

50. Os gorthrymi di fy merched, neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i; nid oes neb gyda ni; edrych, Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau.

51. Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi:

52. Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na'r golofn hon ataf fi, er niwed.

53. Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.

54. Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara: a hwy a fwytasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 31