2. Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt.
3. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi.
4. A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i'r maes, at ei braidd,
5. Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a Duw fy nhad a fu gyda myfi.
6. A chwi a wyddoch mai â'm holl allu y gwasanaethais eich tad.
7. A'ch tad a'm twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.
8. Os fel hyn y dywedai; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion.
9. Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a'u rhoddes i mi.
10. Bu hefyd yn amser cyfebru o'r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu'r praidd,) yn glych‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion.
11. Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi.
12. Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu'r praidd yn gylch‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.