19. Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai'r delwau oedd gan ei thad hi.
20. A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.
21. Felly y ffodd efe â'r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.
22. A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.
23. Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a'i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.