Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 31:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a'i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan.

19. Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai'r delwau oedd gan ei thad hi.

20. A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.

21. Felly y ffodd efe â'r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.

22. A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.

23. Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a'i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.

24. A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.

25. Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â'i frodyr ym mynydd Gilead.

26. A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.

27. Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn?

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 31