13. Myfi yw Duw Bethel, lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o'r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.
14. A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhÅ· ein tad?
15. Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a'n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.
16. Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a'n plant a'i piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.
17. Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a'i wragedd ar gamelod;
18. Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a'i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan.
19. Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai'r delwau oedd gan ei thad hi.
20. A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.
21. Felly y ffodd efe â'r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.
22. A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.
23. Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a'i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.
24. A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.
25. Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â'i frodyr ym mynydd Gilead.
26. A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.
27. Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn?