Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 31:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i'n tad ni, ac o'r hyn ydoedd i'n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn.

2. Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt.

3. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi.

4. A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i'r maes, at ei braidd,

5. Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a Duw fy nhad a fu gyda myfi.

6. A chwi a wyddoch mai â'm holl allu y gwasanaethais eich tad.

7. A'ch tad a'm twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.

8. Os fel hyn y dywedai; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion.

9. Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a'u rhoddes i mi.

10. Bu hefyd yn amser cyfebru o'r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu'r praidd,) yn glych‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion.

11. Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi.

12. Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu'r praidd yn gylch‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.

13. Myfi yw Duw Bethel, lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o'r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.

14. A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 31