Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 30:37-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio'r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail.

38. Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai'r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.

39. A'r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a'r praidd a ddug rai cylch‐frithion, a mân‐frithion, a mawr‐frithion.

40. A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o'r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt.

41. A phob amser y cyfebrai'r defaid cryfaf, Jacob a osodai'r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd, i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail;

42. Ond pan fyddai'r praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a'r cryfaf eiddo Jacob.

43. A'r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 30