Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 30:24-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.

25. A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i'm bro, ac i'm gwlad fy hun.

26. Dyro fy ngwragedd i mi, a'm plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti.

27. A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i'r Arglwydd fy mendithio i o'th blegid di.

28. Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a'i rhoddaf.

29. Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi.

30. Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr Arglwydd a'th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i'm tŷ fy hun?

31. Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.

32. Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw, gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân‐frith a mawr‐frith, a phob llwdn cochddu ymhlith y defaid; y mawr‐frith hefyd a'r mân‐frith ymhlith y geifr: ac o'r rhai hynny y bydd fy nghyflog.

33. A'm cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân‐frith neu fawr‐frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi.

34. A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di!

35. Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion, a'r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a'u rhoddes dan law ei feibion ei hun.

36. Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.

37. A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio'r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail.

38. Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai'r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.

39. A'r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a'r praidd a ddug rai cylch‐frithion, a mân‐frithion, a mawr‐frithion.

40. A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o'r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 30