17. A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.
18. A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i'm gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.
19. Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob.
20. A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon.
21. Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.
22. A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi.
23. A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.
24. A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.
25. A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i'm bro, ac i'm gwlad fy hun.
26. Dyro fy ngwragedd i mi, a'm plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti.
27. A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i'r Arglwydd fy mendithio i o'th blegid di.
28. Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a'i rhoddaf.
29. Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi.
30. Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr Arglwydd a'th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i'm tŷ fy hun?
31. Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.