14. Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a'u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab.
15. Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab.
16. A Jacob a ddaeth o'r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y'th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno.
17. A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.
18. A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i'm gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.
19. Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob.
20. A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon.
21. Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.
22. A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi.
23. A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.
24. A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.