Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 30:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi; ac onid e mi a fyddaf farw.

2. A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel; ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti?

3. A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi.

4. A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati.

5. A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.

6. A Rahel a ddywedodd, Duw a'm barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.

7. Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.

8. A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â'm chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali.

9. Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a'i rhoddes hi yn wraig i Jacob.

10. A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob.

11. A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.

12. A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob.

13. A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a'm galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 30