Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 29:25-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A bu, y bore, wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y'th wasanaethais? a phaham y'm twyllaist?

26. A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.

27. Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill.

28. A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.

29. Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.

30. Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill.

31. A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.

32. A Lea a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: oherwydd hi a ddywedodd, Diau edrych o'r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngŵr a'm hoffa i.

33. A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o'r Arglwydd mai cas ydwyf fi; am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.

34. A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngŵr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.

35. A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 29