13. A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a'i cusanodd, ac a'i dug ef i'w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.
14. A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddiau fy asgwrn i a'm cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.
15. A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y'm gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?
16. Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.
17. A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg.
18. A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a'th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
19. A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na'i rhoddi i ŵr arall: aros gyda mi.
20. Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.
21. A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf ati hi.
22. A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.
23. Ond bu yn yr hwyr, iddo gymryd Lea ei ferch, a'i dwyn hi ato ef; ac yntau a aeth ati hi.
24. A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.