Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 29:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jacob a gymerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.

2. Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o'r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau'r pydew.

3. Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau'r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau'r pydew yn ei lle.

4. A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.

5. Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.

6. Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda'r defaid.

7. Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu'r anifeiliaid dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.

8. A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 29