19. A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o'm helfa, fel y'm bendithio dy enaid.
20. Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd, Am i'r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o'm blaen.
21. A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nes yn awr, fel y'th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e.
22. A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a'i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a'r dwylo, dwylo Esau ydynt.
23. Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a'i bendithiodd ef.
24. Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw.
25. Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nes ataf fi, a mi a fwytâf o helfa fy mab, fel y'th fendithio fy enaid. Yna y dug ato ef, ac efe a fwytaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.
26. Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nes yn awr, a chusana fi, fy mab.
27. Yna y daeth efe yn nes, ac a'i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.
28. A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:
29. Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam i ti: melltigedig fyddo a'th felltithio, a bendigedig a'th fendithio.
30. A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o'i hela.