Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 27:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.

2. Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.

3. Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a'th fwa, a dos allan i'r maes, a hela i mi helfa.

4. A gwna i mi flasusfwyd o'r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y'th fendithio fy enaid cyn fy marw.

5. A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i'r maes, i hela helfa i'w dwyn.

6. A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,

7. Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y'th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw.

8. Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti.

9. Dos yn awr i'r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a'u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i'th dad, o'r fath a gâr efe.

10. A thi a'u dygi i'th dad, fel y bwytao, ac y'th fendithio cyn ei farw.

11. A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn:

12. Fy nhad, ond odid, a'm teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith.

13. A'i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 27