7. A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi: canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg.
8. A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy'r ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig.
9. Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o'i phlegid hi.
10. A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod.
11. A gorchmynnodd Abimelech i'r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â'r gŵr hwn, neu â'i wraig, a leddir yn farw.
12. Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint. A'r Arglwydd a'i bendithiodd ef.
13. A'r gŵr a gynyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.
14. Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a'r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef.
15. A'r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a'u caeasant hwy, ac a'u llanwasant â phridd.
16. Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.
17. Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.
18. Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gaeasai'r Philistiaid wedi marw Abraham; ac a enwodd enwau arnynt, yn ôl yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy.
19. Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog.