Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 26:31-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i'w gilydd: ac Isaac a'u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.

32. A'r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr.

33. Ac efe a'i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beerā€seba hyd y dydd hwn.

34. Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.

35. A hwy oeddynt chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 26