Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 26:1-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu newyn yn y tir, heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar.

2. A'r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i'r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt.

3. Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a'th fendithiaf: oherwydd i ti ac i'th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.

4. A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i'th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:

5. Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a'm cyfreithiau.

6. Ac Isaac a drigodd yn Gerar.

7. A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi: canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg.

8. A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy'r ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig.

9. Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o'i phlegid hi.

10. A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod.

11. A gorchmynnodd Abimelech i'r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â'r gŵr hwn, neu â'i wraig, a leddir yn farw.

12. Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint. A'r Arglwydd a'i bendithiodd ef.

13. A'r gŵr a gynyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.

14. Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a'r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef.

15. A'r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a'u caeasant hwy, ac a'u llanwasant â phridd.

16. Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.

17. Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 26