28. Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o'i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.
29. A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o'r maes, ac efe yn ddiffygiol.
30. A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o'r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.
31. A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint.
32. A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna'r enedigaeth‐fraint hon i mi?
33. A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth‐fraint i Jacob.
34. A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys; ac efe a fwytaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth‐fraint.