Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 25:19-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.

20. Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.

21. Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a'r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd.

22. A'r plant a ymwthiasant â'i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â'r Arglwydd.

23. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o'th fru di; a'r naill bobl fydd cryfach na'r llall, a'r hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.

24. A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi.

25. A'r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.

26. Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a'i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt.

27. A'r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o'r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll.

28. Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o'i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.

29. A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o'r maes, ac efe yn ddiffygiol.

30. A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o'r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 25