Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 25:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a'i henw Cetura.

2. A hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua.

3. A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim.

4. A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.

5. Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac.

6. Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a'u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua'r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw.

7. A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thrigain.

8. Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.

9. Ac Isaac ac Ismael ei feibion a'i claddasant ef yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre;

10. Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.

11. Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai‐roi.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 25