54. A hwy a fwytasant ac a yfasant, efe a'r dynion oedd gydag ef, ac a letyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.
55. Yna y dywedodd ei brawd a'i mam, Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o'r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.
56. Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i'r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr.
57. Yna y dywedasant, Galwn ar y llances, a gofynnwn iddi hi.
58. A hwy a alwasant ar Rebeca, a dywedasant wrthi, A ei di gyda'r gŵr hwn? A hi a ddywedodd, Af.
59. A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer, a'i mamaeth, a gwas Abraham, a'i ddynion;
60. Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
61. Yna y cododd Rebeca, a'i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a'r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith.
62. Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai‐roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau.
63. Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.
64. Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.
65. Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i'n cyfarfod ni? A'r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd.
66. A'r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.
67. Ac Isaac a'i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a'i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.