Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:47-55 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

47. A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a'r breichledau am ei dwylo hi:

48. Ac a ymgrymais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a'm harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab ef.

49. Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â'm meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy.

50. Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.

51. Wele Rebeca o'th flaen; cymer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd.

52. A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymodd hyd lawr i'r Arglwydd.

53. A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a'u rhoddodd i Rebeca: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i'w brawd hi, ac i'w mam.

54. A hwy a fwytasant ac a yfasant, efe a'r dynion oedd gydag ef, ac a letyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.

55. Yna y dywedodd ei brawd a'i mam, Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o'r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24