39. A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i.
40. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i'm mab i o'm tylwyth, ac o dŷ fy nhad.
41. Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.
42. A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:
43. Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a'r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i'w yfed o'th ystên;
44. Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i'th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.
45. A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a'i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg.
46. Hithau a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.
47. A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a'r breichledau am ei dwylo hi:
48. Ac a ymgrymais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a'm harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab ef.
49. Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â'm meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy.
50. Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.