Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:29-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Ac i Rebeca yr oedd brawd, a'i enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i'r ffynnon.

30. A phan welodd efe y clustlws, a'r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon.

31. Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i'r camelod.

32. A'r gŵr a aeth i'r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i'r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gydag ef.

33. A gosodwyd bwyd o'i flaen ef i fwyta; ac efe a ddywedodd, Ni fwytâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha.

34. Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi.

35. A'r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod.

36. Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i'm meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.

37. A'm meistr a'm tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir.

38. Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i'm mab.

39. A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24