20. A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i'r cafn, ac a redodd eilwaith i'r pydew i dynnu, ac a dynnodd i'w holl gamelod ef.
21. A'r gŵr, yn synnu o'i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai naddo.
22. A bu, pan ddarfu i'r camelod yfed, gymryd o'r gŵr glustlws aur, yn hanner sicl ei bwys; a dwy freichled i'w dwylo hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys.
23. Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad?
24. A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.
25. A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya.
26. A'r gŵr a ymgrymodd, ac a addolodd yr Arglwydd.
27. Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a'i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr.