20. Darfu hefyd, wedi'r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;
21. Hus ei gyntafâanedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,
22. A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel.
23. A Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham.
24. Ei ordderchwraig hefyd, a'i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.