1. Ac wedi'r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
2. Yna y dywedodd Duw, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o'r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
3. Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i'r lle a ddywedasai Duw wrtho.
4. Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai'r lle o hirbell.
5. Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; a mi a'r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch.
6. Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a'i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a'r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.
7. A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm?
8. Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd:
9. Ac a ddaethant i'r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a'i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.
10. Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab;
11. Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o'r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
12. Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.