Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 21:22-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.

23. Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlon i mi, nac i'm mab, nac i'm hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â'r wlad yr ymdeithiaist ynddi.

24. Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.

25. Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.

26. Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw.

27. Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a'u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.

28. Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o'r praidd wrthynt eu hunain.

29. Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?

30. Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o'm llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.

31. Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.

32. Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer‐seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.

33. Ac yntau a blannodd goed yn Beer‐seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol.

34. Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 21