Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 21:15-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A darfu'r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o'r gwŷdd.

16. A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.

17. A Duw a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o'r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe.

18. Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â'th law; oblegid myfi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.

19. A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o'r dwfr, ac a ddiododd y llanc.

20. Ac yr oedd Duw gyda'r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.

21. Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a'i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.

22. Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.

23. Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlon i mi, nac i'm mab, nac i'm hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â'r wlad yr ymdeithiaist ynddi.

24. Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.

25. Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.

26. Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw.

27. Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a'u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.

28. Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o'r praidd wrthynt eu hunain.

29. Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?

30. Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o'm llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.

31. Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 21