7. Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a'i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i'w baratoi ef.
8. Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a'r llo a baratoesai efe, ac a'i rhoddes o'u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
9. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.
10. Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o'i ôl ef.
11. Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd.
12. Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a'm harglwydd yn hen hefyd?
13. A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?
14. A fydd dim yn anodd i'r Arglwydd? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara.
15. A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.
16. A'r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodom: ac Abraham a aeth gyda hwynt, i'w hanfon hwynt.
17. A'r Arglwydd a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?
18. Canys Abraham yn ddiau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.