5. A'th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham; canys yn dad llawer o genhedloedd y'th wneuthum.
6. A mi a'th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti.
7. Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a'th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i'th had ar dy ôl di.
8. A mi a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
9. A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a'th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd.
10. Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a'th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi.
11. A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau.
12. Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o'th had di.
13. Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol.
14. A'r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i.