Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 17:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd,

4. Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.

5. A'th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham; canys yn dad llawer o genhedloedd y'th wneuthum.

6. A mi a'th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 17