Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 17:20-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Am Ismael hefyd y'th wrandewais: wele, mi a'i bendithiais ef, a mi a'i ffrwythlonaf ef, ac a'i lluosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.

21. Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.

22. Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham.

23. Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a'r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a'r rhai oll a brynasai efe â'i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef.

24. Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

25. Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

26. O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab.

27. A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gydag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 17