Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 17:13-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol.

14. A'r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i.

15. Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi.

16. Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi.

17. Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain?

18. Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di!

19. A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â'i had ar ei ôl ef.

20. Am Ismael hefyd y'th wrandewais: wele, mi a'i bendithiais ef, a mi a'i ffrwythlonaf ef, ac a'i lluosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.

21. Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.

22. Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham.

23. Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a'r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a'r rhai oll a brynasai efe â'i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef.

24. Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

25. Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

26. O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 17