Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 17:10-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a'th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi.

11. A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau.

12. Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o'th had di.

13. Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol.

14. A'r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i.

15. Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi.

16. Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi.

17. Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain?

18. Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di!

19. A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â'i had ar ei ôl ef.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 17