Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 17:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Aphan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.

2. A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a'th amlhaf di yn aml iawn.

3. Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd,

4. Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.

5. A'th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham; canys yn dad llawer o genhedloedd y'th wneuthum.

6. A mi a'th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti.

7. Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a'th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i'th had ar dy ôl di.

8. A mi a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.

9. A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a'th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd.

10. Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a'th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi.

11. A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau.

12. Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o'th had di.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 17