1. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti.
2. A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
3. Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a'th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
4. Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran.
5. Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a'u holl olud a gasglasent hwy, a'r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6. Ac Abram a dramwyodd trwy'r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a'r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw.
7. A'r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
8. Ac efe a dynnodd oddi yno i'r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua'r gorllewin, a Hai tua'r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd.
9. Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua'r deau.
10. Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i'r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o'r newyn yn y wlad.
11. A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i'r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti: