Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:6-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.

7. Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.

8. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.

9. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.

10. Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.

11. Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.

12. Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.

13. Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.

14. Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.

15. Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.

16. Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llwch.

17. A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni.

18. A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3