5. Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm hamgylchodd â bustl ac â blinder.
6. Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.
7. Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.
8. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.
9. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.
10. Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.
11. Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.
12. Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.
13. Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.
14. Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.
15. Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.
16. Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llwch.
17. A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni.
18. A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr Arglwydd.
19. Cofia fy mlinder a'm gofid, y wermod a'r bustl.
20. Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi.
21. Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.
22. Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.
23. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.