Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:37-55 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Pwy a ddywed y bydd dim, heb i'r Arglwydd ei orchymyn?

38. Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da?

39. Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod?

40. Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd.

41. Dyrchafwn ein calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd.

42. Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist.

43. Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.

44. Ti a'th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.

45. Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl.

46. Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.

47. Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr.

48. Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl.

49. Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra;

50. Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o'r nefoedd.

51. Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas.

52. Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.

53. Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf.

54. Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.

55. Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o'r pwll isaf.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3