Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef.

2. I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi.

3. Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd.

4. Efe a wnaeth fy nghnawd a'm croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn.

5. Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm hamgylchodd â bustl ac â blinder.

6. Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.

7. Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.

8. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.

9. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.

10. Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.

11. Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.

12. Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.

13. Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.

14. Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.

15. Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.

16. Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llwch.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3