Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 1:8-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Jerwsalem a bechodd bechod; am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a'i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl.

9. Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, Arglwydd, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn.

10. Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i'w chysegr, i'r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i'th gynulleidfa.

11. Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid: edrych, Arglwydd, a gwêl; canys dirmygus ydwyf fi.

12. Onid gwaeth gennych chwi, y fforddolion oll? gwelwch ac edrychwch, a oes y fath ofid â'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi, â'r hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi yn nydd angerdd ei ddicter.

13. O'r uchelder yr anfonodd efe dân i'm hesgyrn i, yr hwn a aeth yn drech na hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a'm dychwelodd yn fy ôl; efe a'm gwnaeth yn anrheithiedig, ac yn ofidus ar hyd y dydd.

14. Rhwymwyd iau fy nghamweddau â'i law ef: hwy a blethwyd, ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf: efe a wnaeth i'm nerth syrthio; yr Arglwydd a'm rhoddodd mewn dwylo, oddi tan y rhai ni allaf gyfodi.

15. Yr Arglwydd a fathrodd fy holl rai grymus o'm mewn; efe a gyhoeddodd i'm herbyn gymanfa, i ddifetha fy ngwŷr ieuainc: fel gwinwryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Jwda.

16. Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i'r gelyn orchfygu.

17. Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr Arglwydd a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.

18. Cyfiawn yw yr Arglwydd; oblegid myfi a fûm anufudd i'w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a'm gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed.

19. Gelwais am fy nghariadau, a hwy a'm twyllasant; fy offeiriaid a'm hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.

20. Gwêl, O Arglwydd; canys y mae yn gyfyng arnaf: fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drodd ynof; oherwydd fy mod yn rhy anufudd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sydd gartref.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 1