Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 9:12-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A'r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai'r Arglwydd wrth Moses.

13. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

14. Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.

15. Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a'th drawaf di a'th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.

16. Ac yn ddiau er mwyn hyn y'th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy'r holl ddaear.

17. A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith?

18. Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o'r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.

19. Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a'r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.

20. Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo, a yrrodd ei weision a'i anifeiliaid i dai;

21. A'r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a'i anifeiliaid yn y maes.

22. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft.

23. A Moses a estynnodd ei wialen tua'r nefoedd: a'r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg, a'r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 9