Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 9:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

2. Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto,

3. Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.

4. A'r Arglwydd a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a'r sydd eiddo meibion Israel.

5. A gosododd yr Arglwydd amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna'r Arglwydd y peth hyn yn y wlad.

6. A'r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un.

7. A Pharo a anfonodd; ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.

8. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua'r nefoedd yng ngŵydd Pharo:

9. Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft.

10. A hwy a gymerasant ludw y ffwrn, ac a safasant gerbron Pharo: a Moses a'i taenodd tua'r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail.

11. A'r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid.

12. A'r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai'r Arglwydd wrth Moses.

13. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

14. Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.

15. Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a'th drawaf di a'th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.

16. Ac yn ddiau er mwyn hyn y'th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy'r holl ddaear.

17. A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith?

18. Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o'r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 9