26. A dywedodd Moses, Nid cymwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i'r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Eifftiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?
27. Taith tridiau yr awn i'r anialwch, a nyni a aberthwn i'r Arglwydd ein Duw, megis y dywedo efe wrthym ni.
28. A dywedodd Pharo, Mi a'ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i'r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch; ond nac ewch ymhell: gweddïwch trosof fi.
29. A dywedodd Moses, Wele, myfi a af allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr Arglwydd, ar gilio'r gymysgbla oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl, yfory: ond na thwylled Pharo mwyach, heb ollwng ymaith y bobl i aberthu i'r Arglwydd.
30. A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.