Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 8:22-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A'r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo'r gymysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd yng nghanol y ddaear.

23. A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a'th bobl di: yfory y bydd yr arwydd hwn.

24. A'r Arglwydd a wnaeth felly; a daeth cymysgbla drom i dŷ Pharo, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aifft; a llygrwyd y wlad gan y gymysgbla.

25. A Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i'ch Duw yn y wlad.

26. A dywedodd Moses, Nid cymwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i'r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Eifftiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?

27. Taith tridiau yr awn i'r anialwch, a nyni a aberthwn i'r Arglwydd ein Duw, megis y dywedo efe wrthym ni.

28. A dywedodd Pharo, Mi a'ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i'r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch; ond nac ewch ymhell: gweddïwch trosof fi.

29. A dywedodd Moses, Wele, myfi a af allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr Arglwydd, ar gilio'r gymysgbla oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl, yfory: ond na thwylled Pharo mwyach, heb ollwng ymaith y bobl i aberthu i'r Arglwydd.

30. A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.

31. A gwnaeth yr Arglwydd yn ôl gair Moses: a'r gymysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl; ni adawyd un.

32. A Pharo a galedodd ei galon y waith honno hefyd, ac ni ollyngodd ymaith y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 8