Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 8:11-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A'r llyffaint a ymadawant â thi, ac â'th dai, ac â'th weision, ac â'th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt.

12. A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharo. A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharo.

13. A'r Arglwydd a wnaeth yn ôl gair Moses; a'r llyffaint a fuant feirw o'r tai, o'r pentrefydd, ac o'r meysydd.

14. A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad.

15. Pan welodd Pharo fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

16. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wialen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aifft.

17. Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â'i wialen, ac a drawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft.

18. A'r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu'r llau ar ddyn ac ar anifail.

19. Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharo, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 8